21.11.16

Trac 10: Tybed wyt ti rhy hen i wisgo sunglasses at night - DJ Dafis vs Corey Hart vs Bando

Mae trac rhif 10 yn fashyp arall gan yr hynaws DJ Dafis. Fel yn ei hit "Seithfed Nef" mi gymerodd eiriau "Tybed wyt ti'n rhy hen?" gan Bando y band cwl o'r 80au a'i gymysgu gyda "Sunglasses at night" gan yr artist "new wave" o Ganada, Corey Hart.



ond nid hon oedd y gan a ddefnyddwyd gan y DJ o Fae Colwyn ond ailwampiad o "Sunglasses at night" gan y cynhyrchwyr o Ganada a'r Ffindir - Tiga a Zyntherius.


Yn anffodus, da ni methu ffeindio copi o fideo gwreiddiol "Tybed wyt ti'n rhy hen?" gan Bando felly dyma lun o glawr "Shampw" gan Bando a rhyddhawyd yn 1982 sydd yn cynnwys y trac "Tybed wyt ti'n rhy hen?"

Bando Shampw

Ffaith ffeithiol - Nid llais CPJ sydd yn canu ar y trac "Tybed wyt ti'n rhy hen i wisgo sunglasses at night"

No comments:

Post a Comment