18.8.11

Erthygl Gerddorol Cymraeg

O wefan Dyl Mei (the man, the myth) dylmei.tumbler.com



Mae’r sî am farwolaeth y sîn cerddorol Cymraeg wedi mawr gorliwio. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn adeg ryfedd iawn i gerddorion sy’n canu yn y Gymraeg; mae breindaliadau PRS wedi eu gostwng saithdeg y cant, mae’r rhan fwyaf o raglenni S4C wedi dod i’r casgliad bod cerddoriaeth Cymraeg rhy ddrud i’w ddefnyddio, ac fel pobman arall yn y byd, mae pobol wedi dechrau dod i’r meddwl y bod cerddoriaeth yn rhywbeth sydd am ddim, boed yr artist wedi dewis hynna ei hun neu ddim. Sydyn iawn felly, oedd pobol (yn cynnwys fi) i ddatgan bod y sîn, fel economi’r byd, wedi mynd i’r wal, ond, mae’n debyg bod cerddoriaeth Cymraeg dipyn bach fel “Doctor Who” yn y ffordd mae o ar fin marw mewn ffordd gwbwl ddramatig cyn atgynhyrchu ei hun i ffurf newydd sy’n debyg ond eto hefo nodweddion gwbwl gwahanol i hyn oedd yna ynghynt. Dyna ydw i’n teimlo sydd wedi bod yn digwydd yn y misoedd diwethaf, atffurfio o’r feistres gas ‘ma ‘da ni’n alw’r SRG (Sîn Roc Gymraeg).

Fel rhan o dîm C2 Radio Cymru cefais y cyfle i dreulio wythnos yn gwrando ar a gwylio artistiaid o bob math yn yr Eisteddfod, dwn i’m os mai lawr i’r ffaith fy mod yn sobor oedd hyn, ond teimlais fwy o gynnwrf, hyfrydwch ac yr angen i ddyrnu’r awyr mewn llawenydd nac ydw i wedi ers blynyddoedd, Pam? Oherwydd yn lle gweld bod cerddoriaeth Cymraeg yn y doldrymau nes i sylwi mai fi oedd wedi bod yn edrych arno mewn ffordd hen ffasiwn, a thrio ei rhoi mewn cyd destun ro’n i’n ei ddallt ac wedi arfer gyda. Anhygoel oedd sefyll ar ochr y llwyfan perfformio ar faes yr Eisteddfod yn gwylio grwpiau fel Plant Duw, Creision Hud a Twmffat yn cael ymateb anhygoel o gynnes gan bobol o bob oedran. Mae’r grwpiau yna yn cael ei rhoi yn y cromfach amgen ond nid oedd hyn yn teimlo fel adloniant amgen o gwbwl, mi oedd o’n gweddu’r awyrgylch yn anhygoel, cerddoriaeth Cymraeg newydd yn rhwyllo trwy’r mur haearn o draddodiad. Mae’n ddigon hawdd bod yn amheugar o be welais gan feddwl mai wythnos o gerddoriaeth wedi ei threfnu a’i noddi gan yr Eisteddfod a’i rhoi ymlaen i dorf barod, ond does dim ond angen edrych tuag at wyliau arall fel Y Dyn Gwyrdd (i brofi’r pwynt yma?).

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ŵyl flynyddol sy’n digwydd yn ardal y Bannau Brycheiniog ers wyth mlynedd bellach. Yn bennaf mae’n ŵyl llawn artistiaid sefydlog rhyngwladol megis Fleet Foxes, Laura Marling, Iron and Wine a The Low Anthem, ond ers y dechrau mae croeso yna wedi bod i artistiaid sy’n perfformio yn y Gymraeg; dros y blynyddoedd mae Pep Le Pew, Meic Stevens, Brigyn, Georgia Ruth Williams, Mr Huw, Lowri Evans a mwy wedi perfformio yna, ac eleni bydd cyfle i weld Cowbois Rhos Botwnnog, 9bach, Sion Russell Jones, Gareth Bonello, Gruff Rhys a’r Niwl yn diddanu torf sydd bennaf yn ddi-Gymraeg. Beth sy’n ddiddorol ydi fod grwpiau sy’n perfformio yn y Gymraeg o flaen cynulleidfaoedd Saesneg yn dueddol y cael ymateb anhygoel, ac o bosib gwell na’r hyn y buasant yn disgwyl ei gael gan griw Cymraeg - mae’n bosib, tu allan i’w cyd-destyn, fod gan y grwpiau yma naws eithaf dirgel neu ramantaidd? Neu o bosib mewn Gŵyl fel y Dyn gwyrdd mae’r rheini sy’n mynychu hefo meddwl mwy agored i syniadau a synau newydd. Pell iawn felly mae artistiaid Cymraeg wedi teithio o’r adeg ble yr oeddent yn cael eu barnu a’u ymosod ar am ganu yn y Gymraeg i gynulleidfa Saesneg (fel y digwyddodd i Geraint Jarman yn ystod yr wythdegau). Teimlaf weithiau fod pobol di Gymraeg, pan maent yn cael y cyfle, yn fwy parchus tuag at grwpiau Cymraeg - yn gwrando mewn gigs a ddim jest mynd yna i feddwi’n dwll (rhywbeth i fod yn deg, dwi wedi bod yn euog ohono lawer gwaith), i holi am nwyddau sy’n ymwneud a’r grŵp a hefyd yn llawer mwy parod i drafod a chanmol ar wefannau a chyfryngau newydd fel Twitter a Facebook. Enghraifft arall o hyn oedd gig diweddar y grŵp gwerin amgen 9bach yn ngŵyl cerddoriaeth byd Womad; mae’n debyg bu i’r grŵp chwarae i dorf o ddwy i dair mil yno, a hynny yn ystod y p’nawn - beryg na fysa’r grŵp yn cael torf tebyg yng Nhgymru yn nunlle heblaw am Sesiwn Fawr a Gŵyl y Faenol, (dwy ŵyl fwyaf Cymru sydd wedi gorfod cymryd saib oherwydd diffyg arian yn yr achos gyntaf a diffyg diddordeb yn yr ail, er mae’r Sesiwn Fawr wedi dechrau dangos arwyddion o fywyd unwaith eto diolch byth). Cefais gyfle i siarad hefo Martin Hoyland 9bach ar ol iddo ddychwelyd o ŵyl Womad, ac mae’n debyg iddynt werthu yn agos i gant o recordiau hir yn yr ŵyl, ffigwr anhygoel i grŵp uniaith Cymraeg werthu ar ôl un perfformiad. Galla’i feddwl am fandiau Cymraeg sydd ddim yn gwerthu hynna mewn mis, neu hydynoed blwyddyn, sy’n dod a ni at broblem fwyaf y byd cerddorol ar y foment, ac yn bendant y SRG, sef gwerthiant ac arian.

Galla’i feddwl am sawl cerddor Cymraeg oedd yn gwneud bywoliaeth weddol gyffyrddus oddiar recordiau gwael recordiwyd yn yr wythdegau, ond erbyn rŵan, oherwydd toriadau i freindaliadau’r corff casglu PRS mae’n debyg bod y ffynnon arian hudolus yma wedi sychu lot fawr - bellach tydi hi ddim yn bosib eistedd yn ôl yn disgwyl siec am eich “hit” oedd yn boblogaidd ymysg ffermwyr ifanc yn y nawdegau cynnar, neu am drac hip hop oedd yn cael ei chwarae i farwolaeth oherwydd roedd popeth arall ar y pryd mor uffernol o ddiflas. Mae’n ymddangos bod cerddorion wedi eu taflu allan at y bleiddiau i ymdopi dros eu hunain, ac yn anffodus, tydi llawer erioed wedi gorfod dysgu sut. Ochr arall y geiniog yma ydi cerddorion a chyfansoddwyr sydd wir yn gweithio yn galed ac yn coelio yn eu crefft, cerddorion sy’r un mor bwysig yng Nghymru ac oedd Serge Gainsbourg yn Ffrainc, neu Alan Stivell yn Llydaw, yn dioddef am isio gwneud dim byd mwy na chreu adloniant neu gelf i Gymru, aml gwnewch chi glywed y llinell (fel arfer gan rywun sydd ‘di ‘neud hi’n iawn ar gefn y cyfryngau neu’r grwpiau hyn maen nhw’n ymosod ar) “Tydi cerddorion Lloegr ddim yn cael ddim byd”. Wel, nid Lloegr ydy Cymru, mae’r sefyllfa a chyd-destun y gerddoriaeth yn gwbwl wahanol, mae pawb i weld yn ddigon hapus i bwmpio arian tuag at Opera, gwir, ‘da ni hefo cantorion anhygoel o ddawnus fel Bryn Terfel, Rhys Meirion ar boi ‘na oddiar yr hysbyseb Go Compare, ond cerddoriaeth werin yr Eidal yw Opera, o be dwi’n wybod, prin iawn yw Operâu wedi ei ysgrifennu yng Nghymru neu yn y Gymraeg. Nid mod i’n dweud y bysa bysa SRG wedi ei noddi gan y wladwriaeth yn rhywbeth i anelu at chwaith, ond fysa’n bosib o leiaf ceisio rhoi mwy o arian tuag at datblygu mwy o ymwybyddiaeth mewn ysgolion am gerddoriaeth Cymraeg, mwy o arian i roi bandiau ar y lôn i gigio o amgylch y byd er mwyn hysbysebu diwylliant ifanc Cymraeg ar ei orau ac yn bendant rhoi mwy o bwysau ar S4C i adlerwyrchu tipyn bach mwy ar gerddoriaeth sy’n cael ei chreu a’i hysgrifennu yng Nghymru gan bobol ifanc a ddim yn yr Eidal, Awstria a’r Almaen cannoedd o flynyddoedd nol.

1967 oedd blwyddyn y sengl pop gyntaf Cymraeg, sef Y Blew, ac yn yr 41 mlynedd ers i ddoniau “Maes B” godi ofn ar lawer i berson gôr traddodiadol, mae cerddoriaeth Cymraeg wedi teithio’n bell, mewn i galonnau ac eneidiau’r genedl trwy Dafydd Iwan, Meic Stevens, Edward H a recordiau Sain; mewn i ysbryd gwleidyddol y wlad trwy Datblygu a’r Anhrefn, dros foroedd a mynyddoedd y byd hefo grwpiau fel Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Catatonia a hyd yn oed mewn i glustiau cefnogwyr pêl droed Prydain trwy’r Niwl sy’n rhoi’r trac sain i Football Focus ar BBC1 y tymor ‘ma. Lle felly sydd nesa? Y cliché fysa dweud “i’r dyfodol” neu “ymlaen”, a dyna ddigwyddith, hefo labeli newydd fel Owlet (owletmusic.com) ac Amrwd (www.amrwd.com) yn ymddangos ar y we, grwpiau ifanc talentog a prysur fel Sen Segur, Creision Hud, Trwbador, Y Bandana, Violas, Ifan Dafydd a Swnami, Crash Disco, Yr Angen a llawer llawer mwy, a grwpiau mwy sefydlog fel Yr Ods, Cowbois Rhos Botwnnog a Jen Jeniro yn tyfu o nerth i nerth. Bosib tydi cerddoriaeth Cymraeg ddim yn sŵn y werin rhagor, Bosib fod gan pobol ifanc fwy o ddiddordeb codi pad gêm cyfrifiadur na gitâr y dyddiau ‘ma, Ond eto dyfal barhau mae’r cerddorion sydd yn creu, ac i fynd nôl at fy sylw Doctor Who, bosib fel y Tardis, fod yr SRG yn lot fwy nac mae’n edrych o’r tu allan.


Nice one Dyl

No comments:

Post a Comment