30.6.11

Creision Hud - Cysgod y Cyrion

Mae tiwns gwych Creision Hud yn dal ei cael eu rhyddhau unwaith y mis.
Mae Cysgod y Cyrion ar gael i'w lawrlwytho heddiw.

Dau o'r genod yn ymuno a Dau Cefn

Mae dau o gyn aelodau y Genod Droog wedi ymuno a Dau Cefn ar gyfer haf o gigio.
Carwyn Kim de Bills a Dyl Mei fydd yn ymuno a'r deuawd hip hop electronaidd Aled Roberts a Lindsey McPherson.



Mewn cyfweliad egsgliwsif on byr gyda Dyl Mei dywedodd
"Mae o'n mynd i fod yn cool"

Gwirionedd pur mewn cyn lleied o eiriau. Edrychwn ymlaen yn fawr.


Ie Dyl - DAU Cefn

25.6.11

Brigyn - Subbuteo (Remics Banc) @ybanc

Brigyn - Subbuteo (Remics Banc) by Banc

Wow perl arall gan yr ail wampiwr o fri Y Banc.
Ail wampiad gwych o Subbuteo gan Brigyn.

Mwy plis @ybanc

23.6.11

Y Record Goch - Allan 25/7/2011 @lliwgar

Yn Ngorffenaf mi fydd y record aml-gyfrannog "Y Record Goch" ar gael ar feianl 10 modfedd ag i'w lawrlwytho.
Mi fydd y record sydd yn cael ei rhyddhau ar label Meic P.-Recordiau Lliwgar yn cynnwys dwy gân yr un gan Sen Segur, Y Bwgan, Cowbois Rhos Botwnnog a Dau Cefn.
Rhagarchebwch y record feinal o Sadwrn.com neu y lawrlwythiad o recordiaulliwgar.com

I'r rhai sydd methu aros am y danteithio cerddorol popllyd Cymraeg yma dyma ragflas o rai o'r traciau







18.6.11

Senglau Creision Hud












Yn ol twitter.com/creisionhud mae'r Popsters Cymraeg yn y stiwdio yn recordio y seithfed o'r gyfres o senglau y mae nhw yn ei rhyddhau drwy 2011.

Yn ol ei trydar mae lluniau ohonyn nhw'n gosod Y Beats , Y Riffs a'r Lleisiau ar y sengl fydd yn cael ei rhyddhau ar ol ei sengl nesaf sef "Cysgod y Cyrion"
Mi fydd y 6ed sengl yn cael ei rhyddhau ar Fehefin y 30ain ond os da chi methu aros tan hynny dyma chi

Cysgod y Cyrion by Creision Hud

I brynu'r holl senglau hyd yma ewch i Siop Lawrlwytho Cerddoriaeth Cymraeg Pop Cymru

17.6.11

EP Gwrachod - Chief

Mae EP newydd Gwrachod ar gael ei lawrlwytho o wefan www.amrwd.com

Pop Lo-Fi Cymraeg ar ei orau, gyda adleisiau o Datblygu, H3 a Neu.
Pedair can i roi gwen ar eich gwynebau. Gwych, gwych, gwych!