Llongyfarchiadau mawr i Steve Eaves am enill gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau RAP 2011 BBC Radio Cymru.
Mae Steve yn un or talentau hynod sydd yn creu cerddoriaeth unigryw prydferth ond eto gyda'r dylanwad y felan a roc yn gryf yn ei ganeuon.
Os nad ydych wedi clywed Steve Eaves neu yn ffans ag eisiau casgliad o rhai o'i ganeuon mae yna bocs set sydd yn cynnwys clasuron fel "Traws Cambria" , " Canol Llonydd Distaw" ar hynod wych "Hydref Eto" wedi ei rhyddhau yn ddiweddar.
Mae 72 o ganeuon Steve Eaves ar gael mewn bocs set - Ffoaduriaid ar gael drwy Siop Pop Cymru
No comments:
Post a Comment