17.2.11

Ie dros Gymru - Yr Ods

Ail wampaid yr Ods o'r gan wych gan Bando.
Ar gael o http://www.plaidcymru.org/uploads/Videos_and_Music/01_Ie_dros_Gymru_mp3.mp3

Ni fydd y gan yma iw chlywed ar ein hoff sianeli cyfryngol oherwydd bod yna ddigwyddiad pwysig ar Fawrth y 3ydd a byddai ei chwarae yn anheg. ( allwn nhw wastad chwarae "Na na na na na dwi ddim isioi lyncu" gan Cefin Roberts o'r sioe gerdd Guto Nyth Cacwn i greu y balans politicaidd)

Felly mae Pop Cymru yn awgrymu bod pawb yn  lawrlwytho "Ie Dros Gymru a'i losgi ar CD a'i chwarae  yn eich ceir gyda'r ffenestri ar agor  neu yn uchel ar eich ffons symudol tan Fawrth y 3ydd.

Cofiwch bod fersiynau eraill ar gael.

Ie dros Gymru - Bando (Yr Hwyl ar y Mastiau)

Ie dros Gymru - Tokyu (CD Mawr y Plant)

No comments:

Post a Comment