9.2.11

Gigs Clwb Ifor Bach #gigspc

  Newyddion Diweddaraf...
Digwyddiadau 2011
Meic Stevens / Colorama / DJ Meic P
Does dim angen cyflwyniad ar gyfer Meic Stevens ond gyda'i fwriad i symud i fyw i Canada diwedd mis Chwefror ame'n debyg taw dyma'r tro olaf bydd yn bosib i chi ei wylio'n perfformio fyw cyn iddo ymadael. Gwenwch yn siwr ei eich bod yn archebu eich tocyn i weld y swynwr o Solfa yn perfformio unwaith eto. Daw cefnogaeth ar y noson gan Coloram, band sydd wedi gwneud tipyn o argraff dros y blwyddyn diwethaf.
 Nos Sadwrn 12 Chwefror | 8pm | £8
Bryn Fôn - set arbennig i ddathlu Pencampwriaeth y 6 Gwlad 
Perfformiad cyntaf y brenin Bryn yn Clwb Ifor ers dros 5 mlynedd. Ma'r gig ar noson yr unig gem Pencampwriaeth 6 Gwlad yng Nghymru (Cymru v. Iwerddon) sy'n digwydd ar ddydd Sadwrn, felly rydym yn disgwyl i'r gig werthu allan. Archebwch eich tocynnau nawr.
 Nos Sadwrn 12 Mawrth | 9pm | £10
Derwyddon Dr Gonzo & mwy 
Noson gem Cymru v. Lloegr yn y peldroed a pwy gwell i gael i chware ar y noson i ddathlu buddugoliaeth Cymru ond Derwyddon Dr Gonzo. Cefnogaeth i'w gadarnhau.
 Nos Sadwrn 26 Mawrth | 8pm | £6
Land of Bingo / Dau Cefn / Trwbador 
Proseict newydd Rhys Jakokoyak yw Land of Bingo, pop elctroneg gwych. Daw cefnogaeth gan Dau Cefn, sydd wedi rhyddhau un o'u albyms gorau yn 2010, a Trwbador, band ifanc o Gaerfyrddin syn creu folktronica Cymreig arbennig.
 Nos Sadwrn 9 Ebrill | 8pm | £5

No comments:

Post a Comment