10.10.10

Cyfrinach Clinigol

Na nid "gossip" am y grwp ydi hwn ond enw sengl newydd Clinigol fydd  ar gael ar Hydref y 25ain 2010.
Mae yna dair fersiwn o'r gan  "Cyfrinach" gyda Nia Medi a Geraint Pickard yn darparu'r trac lleisiol.





















Roedd Geraint mewn caffi y we dodji rhywle dramor pan gysylltodd Pop Cymru a fo.

"Mae'n lot llai poppy na´r senglau dwetha" meddai gan ychwanegu

 "... ma na remix drum n bassey gan Cyrion a remix acwstig LUSH gan Dafydd o Alien Square"


ac mae Pop Cymru yn cytuno. Mae'r tair fersiwn yn wahanol ac yn wych.

Mi fydd y sengl ar gael ar ffurf digidol neu ar CD o Sadwrn.com neu eich siop recordiau lleol.

Gwrandewch ar rhagolwg o'r caneuon drwy glicio YMA


"Cyfrinach" gan Clinigol, allan ar Hydref 25ain 2010

Ar gael o
Amazon

Sadwrn.com

Cynyrch Clinigol ar Itunes

neu eich siop recordiau lleol.


No comments:

Post a Comment