31.10.10

DadCu yn cyflwyno... Creision Hud + El Parisa + mwy!
















Y Fuwch Goch, Caerdydd  £4
Tudalen Facebook y gig yma

30.10.10

Y Niwl CAI-SWN 2010

27.10.10

Ypdets Galor.

Gwelwyd gyntaf ar Blog Amrwd
Ypdets Galor.: "

Helo plantos bach Amrwd.com, ma geni ypdets i bawb.

Sesiwn Amrwd 1af

Ma’ amrwd am drio cael artistiad amrywiol i recordio sesiynau acwstic (am wan) a gadael i chi bobl eu gwylio a lawrlwytho. Fel peilot bach, nath Iwan Huws ddod draw i recordio un yn yr ardd. Dyma chi un fidio (mae’r gweddill ar y wefan);



Mai’n bosib lawrlwytho’r sesiwn fel MP3 am ddim, fyddi’n bosib lawrlwytho’r sesiwn fel fidio’n fuan.

Plelist Spotify Sion

Mae Sion (Bob, Jazzffync a Gemau Fidio), wedi neud plelist i’r wefan i chi gal gwrando ar Spotify, ewch yma i wrando iddi, mai’n dda.

Bandcamp

Yn fuan, fydd miwsic amrwd i gyd ar wefan bandcamp, mae hyn yn golygu fydd hi’n bosib gwrando i’r holl EPs etc. heb lawrlwytho unrwbeth. Hwre!

Ddat is ol,

Elis.

"

26.10.10

Heather Jones a Mwy


28ain o Hydref 2010
Gwesty'r Eryrod Llanrwst

http://www.facebook.com/event.php?eid=165195546829283

Ddim yn Segur









Mae Sen Segur wedi gorffen recordio gyda John Lawrence ac wrthin paratoi eu EP.

Yn y cyfamser mae'r band wedi rhoi anrheg bach i'w ffans ar My Space.


Mae Cyfoedd Gwlyb yn drac gwych gyda swn Hamond a beat psychadelic y 60au. 

Mi fydd Pop Cymru yn edrych ymlaen at glywed gweddill yr EP.


25.10.10

Sengl Newydd Clinigol - Cyfrinach


Allan heddiw.
Ar gael or canlynol



Prynwch yn eich canoedd.

99% yn siwr mae yr Hobos ydi Alvy Singer

Yn ol datganiad ar MySpace neithiwr mae'r Hobos wedi marw on yn ei lle mae Alvy Singer sydd yn 99% o'r Hobos.

Yn ol pob son mae yna gerddoriaeth yn cael ei greu fel da ni'n darllen.

Mae'r cliches yn fyw. Dechrau newydd, enw newydd..... edrychwn ymlaen

Yn wreiddiol o Flog Cymdeithas y'r Hobos Unig

MySpace Alvy Singer http://www.myspace.com/alvysingeramrwd

23.10.10

17.10.10

Canllaw Cyfleus Swn 2010

Argraffwch y PDF yma gan y Journal of Plastik a'i ddefnyddio fel Canllaw Cyfleus o weithgareddau Swn eleni.
http://journalofplastik.com/swnselect.pdf

16.10.10

SenSegur yn dechrau ar eu EP

Yn ol MySpace.com/Sensegur mi fydd grwp o Benmachno yn dechrau ar EP newydd dan ofal y meistr zygotic, John Lawrence.
Yn ol y wefan y gobaith ydi gweld yr EP allan yn y Gwanwyn neu yn gynt.

Yn gynt gobeithio gan fod SenSegur yn swnion wych yn fyw ac y mae'n addawol iawn bod ei swn stiwdio yr un mor dda.

                                                                        (llun:Myspace)

15.10.10

Noson Electroneg Night

Noson Electroneg Night: "



Nos Wener nesa yr 22ain o Hydref yn y Cardiff Arts Institute bydd Electroneg yn curadu noson fel rhan o gwyl Swn Huw Stephens. Yn chwarae’n fyw bydd Plyci, Dam Mantle a Quinoline Yellow, gyda Cian Ciaran o’r Super Furry Animals/Acid Casuals yn DJo a criw Electroneg yn mynd nol a mlaen i’r bar. Dewch yn lluuuuuuuuuuuuu £4 ar y drws, dechrau 7pm


Jen Jeniro ar BBC6 Music

O wefan y BBC
"BBC - BBC 6 Music Programmes - Marc Riley, 19/10/2010: "Jen Jeniro are making the effort for you, coming all the way from Snowdonia ... Jen Jeniro formed in Snowdonia in the summer of 2005 their first E.P called ...
www.bbc.co.uk/programmes/b00vdbv7""

Cowbois Rhos Botwnnog - Albym newydd

Gwelwyd gyntaf ar Maes-E, postiwyd gan Sbrigyn Ymborth

Dydd da bawb.

Pleser ydi cael d'eud y bydd albym newydd Cowbois Rhos Botwnnog yn cael ei rhyddhau ar Ragfyr 11. 
Os y gwrandewch chi'n astud ella clywch chi gan neu ddwy ar Radio Cymru yn eithaf buan.

Handi iawn, jysd cyn 'Dolig fel'na. Dewch i gyd -ganu - Cyfalafwyr rhonc ydym ni bob un...



Maes-E

11.10.10

Jazzffync a Gemau Fideo - Rhaglen 7


Rhaglen rhif 7

Yn cynnwys

Technegau recordio yr Animals
Pa mor cwl ydi Lo-fi
Rhegfeydd jystified
a llawer llawer mwy.

Lawrlwythwch a mwynhewch.

Traciau newydd i'w clywed - Lleuwen, Gentle Good a Chwain








O wefan Myspace label gwymon mae traciau gan Lleuwen a The Gentle Good.
"Lle wyt ti heno Iesu Grist" yn werth gwrando arno.

http://www.myspace.com/gwymon

Hefyd ar un o hoff wefanu Pop Cymru sef



mae na ddwy drac gan Chwain sef priosect Meic Parry.
Gwrandewch a lawrlwythwch y traciau o










The Peakz a John Lawrence


















Am ddim yn Y Llangollen, Bethesda   15/10/10 am 9pm

10.10.10

Cyfrinach Clinigol

Na nid "gossip" am y grwp ydi hwn ond enw sengl newydd Clinigol fydd  ar gael ar Hydref y 25ain 2010.
Mae yna dair fersiwn o'r gan  "Cyfrinach" gyda Nia Medi a Geraint Pickard yn darparu'r trac lleisiol.





















Roedd Geraint mewn caffi y we dodji rhywle dramor pan gysylltodd Pop Cymru a fo.

"Mae'n lot llai poppy na´r senglau dwetha" meddai gan ychwanegu

 "... ma na remix drum n bassey gan Cyrion a remix acwstig LUSH gan Dafydd o Alien Square"


ac mae Pop Cymru yn cytuno. Mae'r tair fersiwn yn wahanol ac yn wych.

Mi fydd y sengl ar gael ar ffurf digidol neu ar CD o Sadwrn.com neu eich siop recordiau lleol.

Gwrandewch ar rhagolwg o'r caneuon drwy glicio YMA


"Cyfrinach" gan Clinigol, allan ar Hydref 25ain 2010

Ar gael o
Amazon

Sadwrn.com

Cynyrch Clinigol ar Itunes

neu eich siop recordiau lleol.


Sesiwn C2 - Yr Angen








(llun: C2)

Gwrandewch ar sesiwn wych Yr Angen ar wefan C2

Tair can gan enillwyr Brwydyr y Bandiau.

Gwrandewch yma

C2, bob nos ar BBC Radio Cymru

6.10.10

Bandit 5/10/10 ar S4/Clic


Bandit 5ed o Hydref i'w weld ar S4/Clic.   Cliciwch yma

Huw Stephens a Huw Evans sy'n edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau cerddorol yr haf ar Bandit. Colorama, Sibrydion a Race Horses sydd ymhlith y bandiau.











5.10.10

Newyddion Mr Huw

Ffynhonnell Maes E

Wel, ma'r albym newydd bron yn barod a ma'r promos i gyd di dod yn nol ac yn barod i gael eu postio allan i sgymbags y cyfryngau.
Gyda gobaith (cryf drost ben) bydd yr albym allan dechra mis Rhagfyr ac yna i'ch swyno chi trwy dyddiau tywyll y nadolig.
Ond i aros am hyn, ma na anrheg bach fyny ar myspace mr huw i chdi!
Mi nes i recordio un o'r caneuon bydd ar yr albym newydd ar gyfer sioe Gwobrau RAP Radio Cymru. Mae fersiwn byw o 'Creaduriaid byw' fyny ar 
http://www.myspace.com/ymrhuw
i chdi gal clwad.

Bydd mwy o fanylion am yr albym newydd yn fuan.

Yr hynod ddiolchgar Huw!!! x   "

Cerwch i Myspace Mr Huw rwan i wrando ar Creaduriaid Duw, gwych!